St Davids Gin:Jin Sych Cymreig Ynys Dewi:1 - Jin â thywalltwr
St Davids Gin:Jin Sych Cymreig Ynys Dewi:2 - Jin â thywalltwr â darn o gelf

Jin Sych Cymreig Ynys Dewi

Regular price
£45.00
Regular price
Sale price
£45.00
Unit price
per 
Availability
Sold out
Tax included.

Mae Ynys Dewi yn dirnod eiconig ym mywyd Tyddewi. Mae'r chwedlau sy'n ymwneud â hi, y bywyd gwyllt sy'n ffynnu arni, a'r dyfroedd sy'n taro yn ei herbyn yn cyfrannu, bob un, at glytwaith cyfoethog yr ynys ryfeddol hon.
Mae'r jin unigryw hwn yn costrelu arlliwiau mintys glân ac arlliwiau blodeuog sy'n canu clodydd eu cartref, ac yn cynnwys planhigion botanegol a gynaeafwyd â llaw o Ynys Dewi – Mintys y Dŵr o Ffynnon Sant Iwstinian a Grug y Mêl o'r ardal gyfagos. Gallwch ddisgwyl blasau ac aromâu ffres a gwyrdd yr ynys yn asio â mintys y dŵr. Rhowch gynnig arno gyda deilen llawryf (byddwch yn ddewr!). Mae blasau gwyrdd, glân yn aros amdanoch, a fydd yn llenwi eich gwydryn â diod lysieuol a beiddgar.
Bydd o leiaf 5% o werthiant pob potel o Jin Sych Cymreig o Ynys Dewi a chynnyrch eraill yn cael ei neilltuo i gyllido prosiectau ar Ynys Dewi a'r ardal gyfagos – prosiectau sy'n hanfodol i sicrhau parhad y gwaith hollbwysig a wneir gan elusen RSPB.
Gellid casglu am ddim o St Davids Kitchen neu mae opsiynau dosbarthu ar gael.
Pecynnau sydd ar gael:
Pecyn 1 - £45
Potel o Jin Ynys Dewi
Pecyn 2 - £84
Potel o Jin Ynys Dewi 
Darn o gelf 12x16” ‘Ramsey Raven on the Rock’ wedi’i fowntio